The L-Space Web

Angau Ac Wedyn

Stori fer o'r Disgfyd
gan Terry Pratchett

Copyright © Terry Pratchett 2002


Pan gyfarfu Angau â'r athronydd, meddai'r athronydd, wedi'i gyffroi braidd: "Ar y foment hon, sylweddolwch chi, dwi'n farw ac dwi ddim yn farw ar yr un pryd."

Rhoddodd Angau ochenaid. O na, un o'r rheiny, meddyliodd. Fydd hyn i gyd yn ymwneud â chwantwm eto. Roedd yn gas ganddo ddelio ag athronyddion. Byddan nhw'n ceisio osgoi'r peth pob tro.

"Welwch chi," meddai'r athronydd, wrth i Angau, yn ddisymud, wylio tywod ei einioes yn llifo trwy'r awrwydr, "mae pob peth wedi'i wneud o ronynnau mân, sydd â'r briodwedd ryfedd o fod mewn sawl man ar yr un pryd. Ond mae pethau sy wedi eu gwneud o ronynnau mân yn tueddu aros yn yr un lle ar yr un pryd, sy ddim yn gweddu'n dda â damcaniaeth gwantwm. Ga' i ymhelaethu?"

CEWCH, OND NID YN DDIDDIWEDD, meddai Angau, DROS DRO Y MAE POPETH. Ni thynnodd ei sylw oddi ar y tywod yn disgyn.

"Wel, felly, os ydan ni'n cytuno fod 'na nifer ddiderfyn o fydysodau, mae hynny'n datrys y broblem! Os oes 'na nifer ddi-ben-draw o fydysodau, all y gwely 'ma fod mewn miliynau ohonyn nhw, i gyd ar yr un pryd!"

YDY O'N SYMUD?

"Be'?"

Nodiodd Angau tuag at y gwely. ALLWCH CHI EI DEIMLO'N SYMUD?

"Alla' i ddim, oherwydd fod 'na filiynau o fersiynau ohonof innau, hefyd, ac...a dyma'r rhan dda ohoni...mewn rhai ohonyn nhw, dwi ddim ar fin trengi! Mae popeth yn bosibl!"

Curodd Angau yn ysgafn ar ddolen ei fladur wrth iddo ystyried hyn.

A'CH PWYNT YDY...?

"Wel, dwi ddim yn marw fel y cyfryw, nag ydw? Dydach chi ddim yn gymaint o sicrwydd bellach."

Rhoddodd Angau ochenaid arall. Gofod, meddyliodd. Dyna oedd y broblem. Doedd hi ddim fel hyn ar fydoedd lle roedd y ffurfafen wedi'i chuddio â chymylau trwy'r amser. Ond unwaith welodd bodau dynol yr holl ofod yna, ehangodd eu meddyliau i geisio'i lenwi.

"Dim ateb, y?", meddai'r athronydd oedd ar fin marw. "Teimlo braidd yn hen-ffasiwn, ydach chi?"

MAE'N BOS, YN SICR, meddai Angau. Fuon nhw'n gweddïo ar un adeg, meddyliodd. Ond fuodd o erioed yn sicr fod gweddïo'n gweithio chwaith. Meddyliodd am sbel. AC ATEBAF FELLY, ychwanegodd. YDACH CHI'N CARU'CH GWRAIG?

"Be'?"

Y WRAIG SY WEDI BOD YN GOFALU AMDANOCH CHI. RYDACH CHI'N EI CHARU?

"Ydw. Wrth gwrs."

ALLWCH CHI FEDDWL AM UNRHYW AMGYLCHIADAU LLE, HEB I'CH HANES BERSONOL NEWID MEWN UNRHYW MODD, FYDDWCH CHI, Y FOMENT HON, YN CODI CYLLELL A'I THRYWANNU?

"Yn sicr alla' i ddim!"

OND MAE'CH DAMCANIAETH YN DWEUD FOD YN RHAID I CHI. MAE'N GWBL BOSIBL O FEWN DEDDFAU ANIANOL Y BYDYSAWD, AC FELLY MAE'N RHAID DDIGWYDD, A DIGWYDD LLAWER GWAITH. MAE POB MOMENT YN FILIWN O FILIYNAU O FOMENTAU, AC YN Y MOMENTAU HYNNY, MAE POB PETH SYDD YN BOSIBL YN ANOCHEL. YN HWYR NEU'N HWYRACH, MAE HOLL AMSER YN CAEL EI GRYNHOI MEWN MOMENT.

"Ond wrth gwrs, allen ni ddewis rhwng -"

OES 'NA DDEWIS? MAE'N RHAID I BOB PETH ALL DDIGWYDD, DDIGWYDD. MAE'CH DAMCANIAETH YN DATGAN FOD YN RHAID I FYDYSAWD GAEL EI GREU I GWMPASU'CH 'IE' I BOB UN SYDD YN CWMPASU'CH 'NAGE'. OND DYWEDSOCH CHI FUASECH CHI BYTH YN CYFLAWNI LLOFRUDDIAETH. MAE DEUNYDD Y COSMOS YN CRYNU GERBRON EICH SICRWYDD OFNADWY. MAE'CH MOESOLDEB YN DOD YN GYSTAL GRYM Â DISGYRCHIANT. Ac, meddyliodd Angau, mae gan ofod lawer i ateb drosto.

"Ai coegni oedd hynny?"

NAC OEDD, A DWEUD Y GWIR. MAE O WEDI CREU ARGRAFF ARNA' I, AC WEDI FY SWYNO, meddai Angau. MAE'R SYNIAD RYDACH CHI WEDI RHOI GER FY MRON YN PROFI BODOLAETH DAU LE FU'N CHWEDLONOL HYD YN HYN. RHYWLE, MAE 'NA FYD LLE WNAETH PAWB Y DEWIS CYWIR, Y DEWIS MOESOL, Y DEWIS EHANGODD DDEDWYDDWCH EU CYD-GREADURIAID I'R EITHAF. WRTH GWRS, MAE HYNNY'N GOLYGU HEFYD FOD 'NA OLION MYGLYD Y BYD LLE WNAETHON NHW DDIM, YN RHYWLE...

"Oh, dewch! Mi wn i be' dach chi'n ei awgrymu, a dwi byth wedi credu yn y sothach 'na am Nef ac Uffern!"

Roedd yr ystafell yn tywyllu. Roedd y pelydrau glas ar hyd min bladur y medelwr yn dod yn fwy amlwg.

ANHYGOEL, meddai Angau, YN WIR ANHYGOEL. GA' I ROI AWGRYM ARALL GER EICH BRON: SEF NAD YDACH CHI OND MATH FFODUS O EPA SY'N CEISIO DEALL CYMHLETHDODAU'R CREAD TRWY IAITH A DDATBLYGODD ER MWYN I CHI DDWEUD WRTH EICH GILYDD BLE ROEDD Y FFRWYTHAU AEDDFED?

Er bod ei wynt yn ei ddwrn, llwyddodd yr athronydd i ddweud: "Paid â bod yn wirion."

DOEDD DIM BWRIAD GEN I FOD YN SARHAUS WRTH DDWEUD HYNNY, meddai Angau. DAN YR AMODAU, RYDACH CHI WEDI CYFLAWNI LLAWER.

"Yn sicr, rydan ni wedi dianc rhag ofergoelion hen-ffasiwn!"

DA IAWN, meddai Angau. DYNA'R FFORDD. DIM OND EISIAU GWNEUD YN SICR OEDDWN I.

Daeth yn nes.

AC YDACH CHI'N GWYBOD AM Y DDAMCANIAETH FOD CYFLWR RHAI GRONYNNAU MâN YN ANSICR HYD NES IDDYN NHW GAEL EU GWELD? MAE NHW'N SÔN AM GATH MEWN BOCS YN AML.

"O, ydw", meddai'r athronydd.

DA IAWN, meddai Angau. Cododd i'w draed wrth i'r golau olaf ddifodd, a gwenu.

MI WELA' I CHI...


Ysgrifennwyd "Angau Ac Wedyn" yn wreiddiol ar gyfer, ac ymddangosodd ar, Timehunt (http://www.timehunt.com/timehunt.html), gwefan gemau efo cyfres o bosau cynyddol.

Rhoddwyd caniatâd caredig i'r We Ofod-Ll gyhoeddi'r stori, ond cedwir pob hawl atgynhyrchu a phob hawl arall i'r story gan Terry Pratchett.

Cyfieithiad o'r Saesneg gan Nigel Stapley, 2005.


[Up]
This section of L-Space is maintained by The L-Space Librarians

The L-Space Web is a creation of The L-Space Librarians
This mirror site is maintained by A.H.Davis